Ap Ysgol

 


Ourschoolsapp

Fel rhan o fywyd dydd i ddydd yr ysgol rydym yn awyddus i fod mor eco-gyfeillgar a phosib. I’r perwyl hyn rydymwedi ceisio lleihau faint o bapur ac egni yr ydym yn ei ddefnyddio wrth leihau faint o ddyddiaduron a llythyron sy’n cael eu dosbarthu. Buddsoddwyd mewn ‘app’ arbennig ar gyfer yr ysgol sydd yn eich galluogi chi i weld calendr yr ysgol a derbyn ‘notifications’ pan fo digwyddiad ar y gweill. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i chi ac i ninnau hefyd wrth i ni gadw mewn cyswllt â chi. Rydych yn gallu gweld gwybodaeth ysgol, newyddion, manylion cyswllt a chael mynediad at ein gwefan ysgol a’n cyfrif Facebook a Trydar. Mae rhieni, staff a phlant wedi gweld budd mawr o’i gael gan fod gweithgareddau ar y calendr ysgol o flaen llaw.

Os oes ganddoch ffôn glyfar (Android neu iPhone) gallwch lawrlwytho’r OurSchoolsApp yn Google Play Android neu yn yr Apple Store AM DDIM. Mae mynediad ar lechen neu iPad yn bosib hefyd drwy ddilyn yr un broses. Pan fyddwn yn diweddaru gwybodaeth ar y app byddwch yn derbyn ‘notification’ ar eich dyfais i’ch hysbysu o hyn. Yna fe allwch fynd yn uniongyrchol i’r app i weld y wybodaeth.

 


School Gateway
https://gwynedd.schoolgateway.com