Clwb Gofal a Chlwb Brecwast

Mae plant yn gallu dod i’r ysgol o 8.05 y bore ar gyfer Clwb Gofal a/neu Glwb Brecwast.  Dylid archebu lle i’ch plentyn o flaen llaw os gwelwch yn dda drwy’r system ‘Schoolgateway’.  Codir ffi o £1 ar gyfer y Clwb Gofal cyn y clwb brecwast am eich plentyn cyntaf ac ail blentyn.  Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol felly £2 y dydd yw’r mwyafrif bydd rhiant yn ei dalu.  Mae’r Clwb Brecwast am ddim i bob plentyn.