Croeso i wefan Ysgol Llanystumdwy.

Bwriad y wefan yw rhoi gwybodaeth bwysig i chi am fywyd dydd i ddydd yr ysgol er mwyn i chi wybod mwy amdanom.  Drwy gyfathrebu effeithiol rhwng yr ysgol a chi fel rhiant / warchodwr hyderwn y bydd eich plentyn yn ymgartrefu’n dda yma a byddwch yn teimlo’n hyderus am y gofal y mae ef neu hi yn ei dderbyn yn yr ysgol.  Mae’n bwysig iawn i ni fel staff a llywodraethwyr yr ysgol bod pob plentyn sy’n derbyn addysg yn Ysgol Llanystumdwy yn ffynnu o fewn awyrgylch cyfeillgar, hapus a diogel, a gweithiwn yn galed bob amser i hyrwyddo hyn. Ein nod yma yw i wneud cyfnod eich plentyn yn yr ysgol yn hapus, llwyddiannus a chyffrous fel eu bod yn tyfu’n ddinasyddion hyderus ac uchelgeisiol.

Mae Ysgol Llanystumdwy yn ysgol gymharol fach, ac ymfalchiwn yn fawr yn yr ymdeimlad o berthyn i deulu sydd yn bodoli yn yr ysgol.  Fe geisiwn sicrhau profiadau eang ac amrywiol i blant fel eu bod yn tyfu a datblygu mewn hyder ac yn dod yn barod i chwarae rhan yn eu cymunedau ehangach fel plant a phobl ifanc cwrtais, cyfrifol, annibynnol a chymwynasgar.

Os oes gennych unryw wybodaeth bellach mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol – mae’r holl fanylion ar y dudalen ‘Cysylltu’.